Atal cenhedlu
Gall y Meddyg neu Nyrs y Practis roi cyngor ar atal cenhedlu. Yn ogystal â'r 'bilsen'
draddodiadol rydym yn cynnig pigiadau atal cenhedlu, gosod coil a mewnblaniad
atal cenhedlu.
Iechyd Rhywiol
Os oes gennych bryderon neu os oes angen cymorth a chyngor arnoch am iechyd
rhywiol, gallwch siarad â'r Meddyg neu Nyrs y Practis, fodd bynnag y lle gorau i
fynd yw eich Clinig Iechyd Rhywiol lleol . Nhw yw'r arbenigwyr a'r sefyllfa orau i
helpu. Mae clinig iechyd rhywiol neu feddygaeth genhedlol-droethol (GUM) yn
arbenigo mewn iechyd rhywiol, a gall ddarparu cyngor, profion a thriniaeth ar
gyfer llawer o heintiau a drosglwyddir yn rhywiol.
Mae Frisky Wales hefyd yn adnodd gwych ac yn cynnig gwasanaeth profi cartref
ar gyfer rhai heintiau a drosglwyddir yn rhywiol